Llên y Llain

Publicado:

Tell us what you think of this episodeMae llenyddiaeth Saesneg yn frith o gyfeiriadau at griced. Ond i ba raddau mae criced wedi cael sylw haeddiannol mewn llenyddiaeth Gymraeg? Mae Lowri Roberts, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, wedi gwneud gwaith ymchwil ym maes ‘Chwaraeon mewn Llenyddiaeth Gymraeg’. I ba raddau mae ein harwyr ar y maes chwarae, ac yn enwedig yn y byd criced, wedi cael eu clodfori yng ngwlad y beirdd a’r llenorion Cymraeg? Awn ar daith gyda Sioned Dafydd, gohebydd pêl-droed ‘Sgorio’, i fyd ei thad-cu, y cyn-Archdderwydd Dafydd Rowlands, oedd â’r bwriad o lunio cerdd bob dydd am flwyddyn i gynrychioli pob rhediad o fatiad byd-enwog Garry Sobers. Sut hwyl gafodd e arni, tybed? I’r gorffennol yr awn ni gyda Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, wrth i ni fynd ar drywydd rhai o’r cyfeiriadau cynharaf at griced ar lawr gwlad yn y Gymraeg. Yn goron ar yr Orsedd o westeion mae’r cyn-Archdderwydd Jim Parc Nest, a fydd yn hel atgofion “cricedol” o Gastellnewydd Emlyn, ac yn trafod taith fythgofiadwy i Gaergaint ac achlysur hanesyddol yno yng nghwmni Dafydd Rowlands – ond tybed ym mle’r oedd ei gyfaill fod ar y diwrnod dan sylw? 

Llên y Llain

Título
Llên y Llain
Copyright
Publicado

flashback